Rwyf wedi cyfrannu cartwnau achlysurol at wefan BBC Cymru Fyw ers rhai blynyddoedd, yn ymateb i straeon y dydd.
Rhagfyr 2020 - mae hyd yn oed Siôn Corn yn gorfod dilyn y cyfarwyddiadau!
Tachwedd 2020 - a newyddion da am frechlyn
Medi 2020 - newyddion bod Ryan Reynolds wedi dod yn berchennog clwb pêl-droed Wrecsam
Mawrth 2020 - a phob cartref yn troi’n ysgol!
Chwefror 2020 - a’r WRU yn obeithiol fod pacio 70,000 mewn i’r stadiwm dal yn bosib er fygythiad Covid. Pum munud wedi i’r cartŵn yma mynd yn fyw, penderfynwyd canslo’r gêm - pŵer y cartwnydd!
Mai 2019 - Tymor Eisteddfod yr Urdd, a Cyw mor boblogaidd ag erioed.
Ebrill 2019 - a babi newydd i’r ddarpar-Tywysog Cymru.
Mai 2019 - a defnyddwyr Cymraeg Twitter yn mynd ati’n frwd i ymateb yn chwyrn i unrhyw sarhad o’n hiaith a’n cenedl…
Rhagfyr 2019 - ac Etholiad Gyffredinol llwyddianus iawn i’r toriaid yng Nghymru.
Mawrth 2019 - Eira mawr ar ddydd Gŵyl Dewi
Chwefor 2017 - Geiriadur newydd yn cael ei gyhoeddi.
Gorffennaf 2016 - yr Ewros!
Mai 2017 - Prifysgol Aberystwyth yn agor campws tramor…heb llwyddiant!
Mehefin 2019 - Donald Trump yn tweetio am ei ffrind ‘The Prince of Whales’
Mehefin 2019 - Perchennog yr horwth Trago Mills yn brandio’r iaith Cymraeg yn ‘visual clutter’.
Mawrth 2019 - Llwyddiant i dîm rygbi Cymru - ond poenau am ddyfodol y clybiau
Chwefor 2019 - a llawer yn ymateb i niwed i’r arwydd eiconig
Medi 2018 - Y fythol-annwyl Katie Hopkins yn dewis ymosod ar addysg Gymraeg
Awst 2016 - Diffyg cynrichiolaeth o chwaraewyr llwyddiannus pêl-droed Cymru yn yr Orsedd yn achosi ffys!
2017 - Gwaith dur Tata yn cau. Jôc bach yn amlwg, hwn!
Ebrill 2017 - Cwsmer yn cael ei gwahardd rhag siarad Cymraeg mewn Starbucks yn Aberystwyth.
Dyma ambell i syniad bras na chafod ei ddewis ar gyfer wefan BBC Cymru Fyw, am amrywiol rhesymau!
Rhagfyr 2019 - a’r bore wedi i Gymru troi’n las yn yr etholiad gyffredinol.
Awst 2018 - Yr Arch-dderwydd yn cael ei feirniadu am sylwad rhywiaiethol yn ystod seremoni’r coroni.
2016 - Cymry llwyddiannus yn y Gemau Olympaidd.
2016 - Pleidlais Brexit - y ddewis, a ‘Project Fear’ y naill ochr a’r llall yn taflu gysgod dros benderfyniadau’r etholaeth.
Mawrth 2019 - Dewi’n cael ei ddydd.
Rhagfyr 2019 - Etholiad, a sylw yn mynd at y nifer o ymgeiswyr seneddol nad oedd yn byw yng Nghymru.
Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a ‘Phont Tywysog Cymru’.
2016 - Pleidlais Brexit - y ddewis, a ‘Project Fear’ y naill ochr a’r llall yn taflu gysgod dros benderfyniadau’r etholaeth.