Chi’n gwbod siwt mae’n gweithio: aros am lansiad am oesoedd, a ma 2 yn troi lan ar yr un penwythnos!
Nos wener, mae’r hyfryd, swynol Gwyneth Glyn yn lansio’i thrydedd albwm, Cainc. Yn fy marn cerddorol cyfyngedig i, hi yw’r cerddor gore sy’n gweithio yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ac felly braint oedd imi gael y cyfle i greu’r llun ar gyfer clawr y CD. Dyma siwd mae’n edrych:

I weld, wel, clywed, mwy, dewch i’r Fuwch Goch, yn Stryd Womanby, nos wener am 8.
Yr ail lansiad yw llyfr diweddara’r Lolfa yn y gyfres ‘Hiwmor…’, sef ‘Hiwmor y Cymoedd’, gan Cennard Davies. Eto, dwi wedi cyfrannu clawr, a darluniau am y llyfr, sy’n edrych ychydig (wel, lot), fel hyn:


Mae’r llyfr yn cael ‘i lansio fel rhan o ddathliadau’r Bedwen Lyfrau, sy’n digwydd trwy gydol dydd Sadwrn yn The Gate, yn Y Rhath. (Eto, yng Nghaerdydd – sori i’r non-kairdiffians mas fyna!). Hefyd yn y Fedwen fydd y digwyddiad yma:
“Lluniau Llafar: gwerth straeon stribed; ail-ystyried llenyddiaeth yr ymylon. Dr Siwan Rosser yn sgwrsio gyda Dafydd Jones (Dalen).”
sy’n swno’n ddiddorol IAWN. Iawn. Straeon Stribed yw dyfodol llenyddiaeth Cymru. FFAITH!
Un peth bach arall, gan fy mod i’n blogio yn y Gymraeg am chenj, dwi ar Wedi 3 Dydd Iau yma yn siarad am comics, nofele graffig, straeon stribed ayyb – tiwniwch mewn i weld fy hairstyle newydd!
Jocan. Dwi dal yn foel.