Category Archives: cymraeg
Dydd Gwyl Dewi Hapus!
Straeon Stribed yn y Gymraeg
Dwi’n awyddus iawn i ffindo mwy o bobl sy’n creu straeon stribed/comics yn y Gymraeg. Mae’n hen bryd gael rhyw fath o ‘si^n’ comics yn y gymraeg, ond wrth chwilio ar Google, yr unig pethe sy’n troi lan yw Dalen … Continue reading
Cradur
Pwy ohonoch sy’n lico’r iaith Gymraeg? A phwy ohonoch sydd o blaid hapusrwydd? A beth am anifeiliaid bach ciwt? Ie, pawb. Mae pawb YN Y BYD yn hoffi’r pethau yma. Felly ewch mas i Waterstones, Chapter, neu eich Siop Gymraeg … Continue reading
Gweithdy Creu Comics yng Nghanolfan Dewi Sant 2
Fel rhan o brosiect cyffrous Llenyddiaeth Cymru, y ‘Lolfa Le^n’, yng Nghanolfan Dewi Sant 2, fyddai’n redeg sesiwn gweithdy creu comics a straeon stribed yfori (15fed Hydref), am 11.30. Croeso i bawb o bob oed ymuno, am ddim – dewch … Continue reading
28 Can Hiraethlon
Gobeithio wnaethoch chi bigo lan copi dwetha cylchgrawn Tu Chwith, llawn erthyglau, cerddi, lluniau ag ysgrifau diddorol. Ac hefyd stribed cartwn anarchaidd wedi’i ysgrifennu gan y bardd Osian Rhys Roberts, a’i ddarlunio gan yr enwog Huw Aaron. Os na, dyma fideo … Continue reading
Pwy sy’n Ffan o Ffarmwr Ffowc?
…wel, fi, nawr. Mae un o ser Noson Lawen wedi osod ei ddoethineb amaethyddol a chymdeithasol ar bapur, a fydd ffrwyth ei feddwl dwys ar silffoedd siop lyfre da yn fuan iawn. Gofynnodd Mr Ffowc imi neud ambell i ddwdl … Continue reading
Jocan.
Dyma clawr, ac ambell i gartwn wnes i ar gyfer llyfr jocs wych i blant gan y Lolfa – fydd e yn y siopau cyn bo hir, a wedi’i sdwffo’n llawn jocs a chartwns (tua 60 os dwi’n cofio’n gywir).




