Cyd-weithio Creadigol

Pleser oedd gweithio gyda’r bardd Aneirin Karadog yn ddiweddar, yn creu darluniau ar gyfer ei gasgliad cynta o gerddi, ‘O Annwn i Geltia’. Dyma’r tro cynta imi creu lluniau yn seiliedig ar farddoniaeth, ac mi oedd yn her ond yn hwyl. Natur barddoniaeth yw i fod yn weddol weledol, llunie’n gal i creu gyda geiriau – felly mi oedd yna ddigon o ‘snapshots’ da i arlunio – ond y sialens yw i geisio hefyd cadw natur anelwig y gerdd -heb gymryd pethe’n rhy llythrennol. Gobeithio llwyddes i i troedio’r llinell yma…dwi ddim yn hollol siwr – ond mi ydw i (a Aneirin!) yn  hapus gyda’r llunie.

Dweud y gwir, o’n i’n digon hapus i’w ail-greu yn fawr fel paentiadau. Mi fydd y gyfres o baentiadau yma ar ddangos mewn arddangosfa nesa project/ten, ac hefyd ar daith gyda Aneirin pan geiff y llyfr ei lansio. Mwy o fanylion i ddilyn ar yr hen Trydar!

Mae’r llyfr wedi ei gyhoeddi gan Barddas, ac fe fydd yn y siopau yn fuan iawn. Ewch, prynhewch!

 

This entry was posted in comics, fine art, illustration, rugby and tagged , , , , , , , , , , , . Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>