Heb cyffwrdd a’r blog ma ers tipyn – yn benna oherwydd wi di bod yn rhy brysur, felly dyma chi update o rhai o fy mhrosiectau a ddigwyddiadau ddiweddar.
Yn gynta, falle wnaethoch chi gweld fy ngwyneb bach bert ar S4/C yn yr wythnosau dwetha yn arlunio ar rhaglen Tinopolis “Criced 20/20″. Wel, wedi fwynhau ambell i drip i Sophia Gardens i gartwnio fyna – gobeithio fyddai yno eto cyn diwedd y tymor. Dyma cwpl o luniau:
Y cartwn wnes i am y rhaglen cynta – nath Mark Cosgrove druan gal bach o rough treatment fyna…wedi’r gem, weles i fe yn y Mochyn Du – ond wnes i’n siwr o gadw fy mhen i lawr jyst rhag ofn fod e wedi gael cip o’r llun…
A dyma fi yn cyflwyno caricature eitha wael i Robert Croft – un o fy arwyr fel ffan ifanc o chriced Morgannwg. Wnath e gofyn am y llun wedyn, felly mae’n rhaid bod e’n meddwl bach mwy ohono fe nag o’n i!
UPDATE:
Dyma’r rhaglenni , os i chi am chwilio am fy nghyfweliadadu byr!
Mae’r rhaglen ola yn y cyfres dydd Sadwrn yr 17fed – wi’n gobeithio neud rhywbeth sbeshal iddyn nhw!






